Adroddiad drafft gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Teitl: Rheoliadau Iechyd Meddwl (Eiriolwyr Iechyd Meddwl Annibynnol) (Cymru) 2011
Gweithdrefn: Cadarnhaol
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch y trefniadau ar gyfer penodi Eiriolwyr Iechyd Meddwl Annibynnol (“EIMAau”) gan gynnwys darpariaeth ynghylch pwy a all gael ei benodi’n EIMA a pha bersonau y caniateir i EIMA ymweld a chyfweld â nhw er mwyn rhoi cymorth i glaf cymwys Cymreig dan orfodaeth neu i glaf anffurfiol cymwys Cymreig.
Materion technegol: craffu
O dan Reol Sefydlog 21.2, ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno
adroddiad arnynt mewn cysylltiad â’r offeryn drafft hwn:
Rhinweddau: craffu
O dan Reol Sefydlog 21.3 (ii) (materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad) gwahoddir y Cynulliad i roi sylw arbennig i’r offeryn a ganlyn.
Mae’r Rheoliadau hyn yn rhan o gyfres o reoliadau sy’n cael eu gwneud gan Weinidogion Cymru o dan bwerau sydd wedi’u rhoi iddynt gan ddarpariaethau ym Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 (“y Mesur”) neu o dan ddarpariaethau Deddf Iechyd Meddwl 1983 (“y Ddeddf”) fel y’i diwygiwyd gan y Mesur ac sydd wedi’u bwriadu i ddatblygu a gwella gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru.
Mae’r Rheoliadau hyn yn disodli ac yn dirymu Rheoliadau Iechyd Meddwl (Eiriolwyr Annibynnol Iechyd Meddwl) (Cymru) 2008 ac maent yn cael eu gwneud o dan Ddeddf 1983 yn sgil diwygio’r Ddeddf honno gan Fesur 2010.
Mae’r diwygiadau i’r Ddeddf yn darparu ar gyfer cynllun statudol estynedig o eiriolaeth iechyd meddwl i Gymru yn unig, a hwnnw ar gyfer cleifion sydd o dan orfodaeth o dan y Ddeddf a’r rhai sydd mewn ysbyty neu sefydliad cofrestredig ar sail anffurfiol (hynny yw heb orfodaeth).
O dan y weithdrefn gadarnhaol y mae’r Rheoliadau hyn yn cael eu gwneud ac felly fe gân nhw eu trafod gan y Cynulliad mewn Cyfarfod Llawn.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
23 Medi 2011